Obtenez 3 mois à 0,99 $/mois

OFFRE D'UNE DURÉE LIMITÉE
Page de couverture de Bangor Be Wedyn?

Bangor Be Wedyn?

Bangor Be Wedyn?

Auteur(s): Bangor Cymraeg
Écouter gratuitement

À propos de cet audio

Podlediad sy’n dathlu llwyddiant graddedigion Prifysgol Bangor. Bydd y gyfres yn cynnwys sgyrsiau difyr gyda chyn-fyfyrwyr am eu profiad o astudio drwy’r Gymraeg, eu llwybr gyrfa ac ym mha ffyrdd y mae’r Gymraeg wedi agor drysau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd proffesiynol.

Bydd y penodau yn cwmpasu meysydd amrywiol, nid dim ond un maes astudio - felly rhywbeth at ddant pawb! Y thema a fydd yn uno’r cyfan ydy’r cyswllt rhwng y Gymraeg a chyflogadwyedd, ac yn benodol y profiadau ‘byd go-iawn’ sydd yn rhan o hynny. Gobeithio bydd clywed straeon diddorol ein graddedigion yn eich ysbrydoli!

Diolch i Gronfa Bangor am ariannu'r podlediad a diolch i gwmni Y Pod am gynhyrchu.
Bangor Cymraeg
Apprentissage des langues Sciences sociales
Épisodes
  • Teleri Davies
    Jul 30 2025
    "Oedd astudio drwy'r Gymraeg yn benderfyniad naturiol i fi wneud."

    Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd.

    Dyma bennod ychwanegol arbennig gyda'r chwaraewr rygbi Teleri Davies!
    Mae stori Teleri yn un ofnadwy o ddiddorol. Mi astudiodd hi'r gyfraith ym Mhrifysgol Bangor cyn cymhwyso fel cyfreithwraig. Mae hi hefyd wedi chwarae rygbi dros ei gwlad a mae hi bellach yn gweithio fel athrawes ac yn chwarae rygbi yn Tseina.

    Oherwydd y logistics, yn anffodus doedd hi ddim yn bosib recordio gyda Teleri yn fyw , ond mae hi yn garedig iawn wedi rhannu ei stori gyda ni. Mae hi'n sôn ychydig am ei hamser yn y brifysgol, pam dewis astudio'r gyfraith ym Mangor a pham dewis astudio drwy'r Gymraeg. Mae hi hefyd yn sôn am ba mor ddefnyddiol ydy bod yn ddwyieithog yn y byd cyfreithiol, cyn symud ymlaen i siarad am ei phrofiad o fyw yn Tseina a sut gafodd hi'r cyfle i fynd i chwarae rygbi ochr arall y byd.

    Mwynha'r bennod ychwanegol yma!
    Voir plus Voir moins
    17 min
  • Sioned Dafydd
    Jul 16 2025
    "Fi mor mor ddiolchgar bo' fi'n siarad Cymraeg."

    Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd.

    Yn y bennod yma mi wnes i sgwrsio hefo Sioned Dafydd, cyflwynydd a gohebydd i Sgorio ar S4C. Mae Sioned wedi cael profiadau anhygoel drwy weithio yn y byd darlledu gan gynnwys gohebu ar gemau dynion Cymru yn ystod Cwpan y Byd yn 2022.

    Mae Sioned yn sôn am pa mor ddiolchgar ydy hi ei bod hi'n gallu siarad Cymraeg a sut mae medru'r iaith wedi ei helpu yn ei gyrfa. Mae hi hefyd yn sôn sut wnaeth hi a tîm cynhyrchu Sgorio gyd-weithio hefo Cymdeithas pêl-droed Cymru i adeiladu hyder Aaron Ramsey i wneud cyfweliadau yn Gymraeg.

    Os wyt ti eisiau gyrfa yn y byd darlledu chwaraeon, dyma'r podlediad i chdi. Mwynha'r bennod!

    Voir plus Voir moins
    32 min
  • Huw Harvey a Malan Fôn
    Jul 2 2025
    "Fedra i ddweud reit sicr, fyswn i ddim lle ydw i wan heb y Gymraeg."

    Croeso i bennod arall o Bangor Be Wedyn, lle mi ydw i Huw Gwynn yn sgwrsio hefo graddedigion Prifysgol Bangor am eu gyrfa nhw ers graddio a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu nhw ar hyd y ffordd.

    Cerddoriaeth ydi'r maes sy'n cael sylw yn y bennod yma. Mi wnes i siarad hefo Huw Harvey, aelod o fand Fleur de Lys sydd hefyd yn bennaeth cerdd yn Ysgol Brynrefail a Malan Fôn, cantores a chyfansoddwraig sydd hefyd yn gweithio fel arweinydd tîm creadigol yn Gisda ac Ucheldre.

    Mae'r ddau yn siarad am pa mor bwysig ydy cerddoriaeth iddyn nhw a sut mae'r Gymraeg wedi eu helpu yn eu gyrfaoedd. Mae nhw hefyd yn cynnig ambell dip i unrhyw un sydd yn hoff o ysgrifennu caneuon ei hunain. Mwynha'r bennod!
    Voir plus Voir moins
    40 min
Pas encore de commentaire