Épisodes

  • Pel droed, Rygbi a Seiclo
    Sep 5 2025

    Y chwaraewraig bel droed dryta'n y byd, canlyniad tim pel droed dynion Cymru, Cwpan Rygbi'r Byd ac wrth i yrfa Geraint Thomas dynnu tua'r terfyn, sylw i daith seiclo Prydain.

    Voir plus Voir moins
    17 min
  • Y Panel Chwaraeon - Rygbi, Criced, Ralio a Sboncen
    Sep 1 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Owen Jenkins, Elain Roberts a Dafydd Pritchard sy'n trafod canlyniad siomedig tim menywod rygbi Cymru yn erbyn Canada, Criced yn ffarwelio a maes Sain Helen, Elfyn Evans yn dod yn ail yn Rali Paraguay a'r Cymry sydd yn Bencampwyr y Byd Sboncen; Tesni Murphy a Joel Makin.

    Voir plus Voir moins
    15 min
  • Y Panel Chwaraeon
    Aug 29 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Anwen Rees, Owain Gwynedd a Sion Wyn Pritchard wrth iddyn nhw drafod byd y campau gan gynnwys tîm rygbi merched Cymru yng Nghwpan y Byd, a thîm peldroed dynion Cymru'n paratoi i deithio i Kazakhstan. Mae pedwar athletwr o Gymru wedi cael eu dewis i gynrychioli Tîm GB ym Mhencampwriaethau'r Byd a hefyd trafodaeth am Ben Kellaway o dîm Criced Morgannwg.

    Voir plus Voir moins
    24 min
  • Y Panel Chwareon, Rygbi a Phêl-Droed.
    Aug 25 2025

    Ymunwch gyda Alun Thomas a'r panelwyr Gareth Roberts, Caryl James a Dyfed Cynan. Maent yn trafod Cwpan Rygbi'r Byd i Fenywod ac yn edrych yn ôl ar bêl-droed y penwythnos.

    Voir plus Voir moins
    18 min
  • Y Panel Chwaraeon yn trafod Rygbi, Peldroed a Chriced.
    Aug 22 2025

    Ymunwch gyda Alun Thomas a'r panelwyr Rhodri Gomer Davies, Lowri Wynn ac Owain Llyr. Maent yn trafod cyhoeddiad mawr Undeb Rygbi Cymru ynglyn a dyfodol y gem broffesiynnol, a'r ffaith eu bod nhw'n ffafrio lleihau y rhanbarthau o bedwar i ddau. Cwpan Rygbi'r Byd i Fenywod. Edrych ar beldroed y penwythnos a chipolwg ar dim criced Morgannwg.

    Voir plus Voir moins
    17 min
  • Y Panel Chwaraeon - Uwch Gyngrhair Lloegr, Cwpan y Byd y Menywod a Chyngrheiriau Ffantasi
    Aug 18 2025

    Ymunwch gyda Alun Thomas a'r panelwyr Ffion Eluned Owen, Dafydd Pritchard a Geraint Cynan sy'n trafod canlyniadau'r timau Cymreig dros y penwythnos, Uwch Gyngrhair Lloegr, Cwpan Rygbi Menywod y Byd a Chyngrheiriau Pel Droed Ffantasi.

    Voir plus Voir moins
    16 min
  • Y Panel Chwaraeon - Y Tymor Pêl-droed newydd; Hoff Stadia Pêl-droed; a chlwb nesa Louis Rees-Zammit
    Aug 15 2025

    Ymunwch gyda Dewi Llwyd a'r panelwyr Sioned Dafydd, Mei Emrys a'r gohebydd Carl Roberts yn trafod y tymor pêl-droed newydd; Apêl gwylio pêl-droed yn lleol; Arolwg sy'n trafod hoff stadia pêl-droed y cefnogwyr; Gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf i Ynysoedd Marshall; Chelsea yn rhoi arian i deuluoedd Diogo Jota ac Andre Silva; Y chwaraewr pêl-droed Americanaidd Archie Wilson yn hiraethu am adre; a Louis Rees-Zammit yn ymuno gyda chlwb Bryste.

    Voir plus Voir moins
    17 min
  • Y Panel Chwaraeon - Y tymor pêl-droed newydd; Criced a'r Tân Cymreig; Athletau, a Charfan Rygbi Merched Cymru
    Aug 11 2025

    Ymunwch gyda Rhodri Llywelyn a'r panelwyr Gwennan Harries, Mike Davies a Dafydd Pritchard yn trafod y tymor pêl-droed newydd a dechrau ymgyrchoedd y clybiau o Gymru; Adroddiad "Kick It Out" sy'n trafod hiliaeth a thrawsffobia mewn pêl-droed; Y Tân Cymreig ac apêl criced y Can Pelen; Torri recordiadau byd mewn athletau; Carfan Rygbi Merched Cymru ar gyfer Cwpan y Byd; a dathliadau sydd wedi mynd o'i le!

    Voir plus Voir moins
    18 min